Mae tad a merch, sy’n ffermio gwartheg bîff a defaid yng Ngogledd Cymru, Glyn Roberts a Beca Glyn, wedi codi pryderon am gynlluniau ffermio arfaethedig a materion sy’n creu rhwystrau i ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru, wrth iddynt groesawu’r Gweinidog Amaeth Lesley Griffiths i’w fferm.
Wrth fynd â Lesley Griffiths o amgylch y sied wartheg a’r caeau yn Nylasau Uchaf, tynnodd Glyn Roberts sylw at rai o’r mesurau y maent wedi’u rhoi ar waith i wneud eu harferion ffermio yn fwy cynaliadwy. Clywodd y Gweinidog sut y gall defnyddio deunydd gwahanol o dan y gwartheg, fel estyll padio yn lle estyll concrit plaen yn y siediau gwartheg, wneud gwahaniaeth o 500 - 600 gram y dydd o gynnydd pwysau byw i wartheg ar yr un diet.
Gan esbonio beth arall maent wedi'i wneud i leihau allyriadau ar y fferm, esboniodd Beca: “Rydym wedi gwneud archwiliad carbon yma ar y fferm ac o gymryd rhai o'r canlyniadau i ystyriaeth bu'n rhaid i ni edrych ar sut a ble y gallwn wella'r ffordd rydym yn ffermio. Dangosodd canlyniadau'r archwiliad fod y gwartheg yn well na'r cyfartaledd yn eu hôl troed carbon ar gyfer y math yma o fferm a bod y defaid yn perfformio ar gyfartaledd. Mae’n gwneud synnwyr ein bod ni’n well na’r cyfartaledd gyda’r gwartheg oherwydd rydyn ni wedi newid brid a natur y gwartheg rydyn ni’n eu cadw yma.
“Rydym bellach yn cadw buwch lawer llai, mwy effeithlon, ac wedi symud i ffwrdd o fridiau cyfandirol a oedd yn pwyso tua 800kg i 900kg. Mae'r bridiau llai rydym yn cadw nawr tua 550kg i 600kg. Mae’r gymhareb rhwng pwysau diddyfnu’r lloi a phwysau byw’r fuwch hefyd yn llawer gwell.”
Mae Glyn yn glir bod llawer o ffactorau effeithlonrwydd eraill sy'n cyfrannu at yr ôl troed carbon ac allyriadau. “Ar hyn o bryd mae’r holl wartheg yn lloia’n heffrod 2 oed, ac mae hynny’n help mawr. Byddai'r gwartheg cyfandirol yn lloia yn 2.5 i 3 oed. Felly byddai gennym ni 12 mis ychwanegol o allyriadau ar y fferm - mae hynny nawr yn cael sylw.
“Rydym bob amser yn chwilio am fesurau arloesol a all ein helpu i fod yn fwy effeithlon yn ein dulliau o ffermio. Gall pob diwydiant wneud gwelliannau i sut mae’n gweithredu ac nid yw ffermio yn eithriad,” meddai Glyn Roberts.
Fodd bynnag, edrych ar effeithiolrwydd y da byw yw un agwedd yn unig o’r gwaith sy'n cael ei wneud yma i sicrhau bod y system ffermio yn cadw ei hôl troed carbon yn isel. Er enghraifft mae Beca a Glyn bellach yn defnyddio system bori cylchdro sy'n caniatáu iddynt dyfu'r un faint o laswellt wrth leihau faint o wrtaith y maent yn ei ddefnyddio.
Nid dyna ddiwedd y stori gyda’r tad a’r ferch, ac roedd gwelliannau pellach i’r system ffermio yn cynnwys cau rhai o’r ffosydd ar y ffridd ar y mynydd, cyfyngu ar ddŵr ffo i mewn i afon Conwy, ac wrth fynd i’r afael ag erydiad pridd posibl, maent hefyd wedi gosod mannau caled ar gyfer bwydo da byw yn y caeau. Crëwyd ceuffosydd hefyd i fynd dros ffosydd fel nad oes rhaid i’r tractor yrru drwyddynt a baeddu’r dŵr.
Ychwanegodd Beca Glyn: “Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf rydym wedi plannu 4.5 milltir o wrychoedd ar y fferm ac rydym hefyd wedi plannu tua 300 o goed collddail brodorol mewn ardaloedd ar draws y fferm. Dewiswyd ble i'w plannu mewn cydweithrediad â warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sicrhau eu bod yn y mannau cywir. Y goeden iawn yn y lle iawn yw ein mantra o hyd ond rhaid iddynt fod yn rhan o ddull ffermio cynaliadwy ehangach.”
Gwelodd y Gweinidog hefyd sut y maent wedi mynd i’r afael â phroblemau llygredd dŵr posibl ar y fferm. 30 mlynedd yn ôl, bu Glyn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Asiantaeth yr Amgylchedd (CNC bellach) i roi mesurau ar waith a fyddai’n gweld sefydlu system hidlo dŵr trwy ddefnyddio coed Helyg ac mae hyn yn parhau i weithredu ar y daliad, gan ymdrin ag unrhyw faterion dŵr budr.
Hefyd, aeth swyddogion yr undeb a ymunodd â'r ymweliad i'r afael â mater capio ar daliadau. Tynnwyd sylw hefyd at bryderon na fydd contractau prif ffrwd Glastir yn cael eu hymestyn y flwyddyn nesaf a chlywodd y Gweinidog sut y bydd hyn yn achosi pryderon mawr ar draws y diwydiant o ran y goblygiadau i fusnesau fferm ac ymarferoldeb o ddylunio a chyflwyno cynllun newydd dros gyfnod o ychydig fisoedd yn unig.
Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Mater arall yr ydym wedi’i drafod a’i amlygu dro ar ôl tro yn ein sgyrsiau â’r Gweinidog, ac mewn gwirionedd ers cyhoeddi’r cynigion gyntaf, yw’r gofyniad arfaethedig am 10% o orchudd coed fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roeddem yn gallu dangos yn uniongyrchol i Lesley Griffiths yma yn Nylasau Uchaf beth all, ac sydd wedi gweithio, a beth sy’n gwneud rhai targedau ac uchelgeisiau plannu yn anymarferol.”
Ychwanegodd Mr Rickman fod yn rhaid ystyried y dull fferm gyfan, ac wrth edrych ar liniaru newid hinsawdd rhaid i fesurau eraill megis gwella effeithlonrwydd da byw a chynhyrchu ynni adnewyddadwy fod yn rhan o'r ateb.