BYDD hi'n cwl i gael eich gweld ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a'r Fro sydd i'w chynnal wythnos nesaf (Mai 30-Mehefin 4).
Bydd yr Undeb yn hyrwyddo gwaith "Cool Milk", sy'n cyflenwi llaeth i ysgolion. Mae "Cool Milk" wedi ymuno gyda Mudiad Meithrin yn ddiweddar i lansio cynllun llaeth am ddim er mwyn cael mwy o blant i yfed llaeth mewn cylchoedd meithrin a meithrinfeydd ar draws Cymru.
Ar y stondin, bydd staff UAC yn rhoi cartonau o laeth am ddim i blant ifanc yn ogystal â chopïau o lyfryn dwyieithog Hybu Cig Cymru sef "Cwl i Goginio" sy'n cynnwys ryseitiau cytbwys a luniwyd yn ofalus er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru'n awyddus i ddeisio, yn cyffroi wrth ffrio ac yn frwd i rostio!
Dywedodd Gareth Vaughan, Llywydd UAC: "Mae hawl gan bob plentyn o dan bum mlwydd oed i gael 189ml o laeth (traean o beint) yn yr ysgol, cylch chwarae neu feithrinfa, ond mae gweithredu cynllun "Cool Milk" a'r Mudiad Meithrin wedi costio'n ddrud i'r ysgolion a'r meithrinfeydd yn y gorffennol.
"Mae'n rhaid i staff yr ysgolion gwblhau'r gwaith papur, tra bod rhaid i staff meithrinfeydd ariannu llaeth y plant wrth aros am yr ad-daliad.
"Mae'r cynllun yn diddymu'r rhwymedigaeth yma gan fod y llaeth yn cael ei ariannu'n llawn ar ran y cylch meithrin a'r feithrinfa sy'n golygu ni fydd rhaid iddynt gwblhau gwaith papur na hawlio arian yn ôl.
"Mae'n bwysig i blant yfed llaeth. Mae cynghorwyr iechyd yn dweud wrth bawb am fwyta neu yfed tair rhan o gynnyrch llaeth y dydd.
"Mae llaeth yn yr ysgol yn ddelfrydol oherwydd mae'n cynnig cyfle gwych i gryfhau esgyrn a dannedd iach, yn ogystal â darparu hwb hanfodol sy'n cynnwys maetholion sy'n hanfodol i'w datblygiad."
Hefyd, dywedodd Mr Vaughan bod yr Undeb yn falch o amlygu gwaith Hybu Cig Cymru wrth hyrwyddo'r llyfr ryseitiau. "Mae ymchwil a wnaed gan HCC yn dangos bod nifer o athrawon yn wynebu penderfyniadau anodd wrth ddysgu am fwyd.
"Mae athrawon wedi dweud droeon, nid oes digon o amser o fewn y cwricwlwm neu ddiffyg adnoddau i wneud cyfiawnder a'r pwnc. Dyma'r rheswm pam mae HCC wedi cynhyrchu'r "Cwl i Goginio" gwreiddiol a ddilynwyd gan "Cwl i Goginio 2" a gyhoeddwyd yn ystod haf llynedd.
"Mae'r ddau lyfryn, sy'n hynod o liwgar ac o ansawdd uchel, yn apelio i blant ysgolion cynradd. Mae'n fodd o ledaenu'r neges bod diet cytbwys yn rhan o fyw bywyd iach.
"Mae'n darparu awgrymiadau hanfodol i ddewis, paratoi a chyflwyno bwyd a fydd yn rhoi ein plant ar y llwybr cywir am weddill bywyd.
"Mae HCC yn annog pawb i goginio prydau cytbwys sy'n cynnwys cynhwysion lleol, sydd wrth gwrs yn golygu Cig Oen ag Eidion Cymru, ac mae hyn yn hynod o wir ar gyfer ein pobl ifanc"
Mae "Cwl i Goginio" yn cynnwys ryseitiau ar gyfer Cwpanau Bara Crensiog; Pasta gyda Chig a Thomatos; Myffins Sticlyd ac Oren; Cig Oen Cymru wedi'i dro-ffrio; Patis Cig Oen Cymru; Pei Briwgig eidion a sglodion; Ffrwythau tro-ffrio; Koftas sbeislyd Cig Oen Cymru; Porc Melys a Sur; Brechdanau blasus a salad blasus a hwylus.