Mae Cangen Meirionnydd o’r Undeb wedi bod yn brysur yn paratoi cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer stondin UAC ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala wythnos nesaf, Mai 26 – 31.
Dyma un o Wyliau Ieuenctid mwyaf Ewrop, ac mae UAC wedi llogi stondin 3 uned ar gyfer y digwyddiad blynyddol poblogaidd yma, a thrwy gydol yr wythnos gall aelodau ac ymwelwyr I’r Eisteddfod alw am baned o de neu goffi a lluniaeth ysgafn.
Mae Merched yr Undeb drwy Feirionnydd wedi cytuno’n garedig i fod yn rhan o’r trefniadau, ac mae’r Gangen Sirol yn ddiolchgar dros ben am eu cymorth a’u cydweithrediad parod yn ol Swyddog Sirol Meirionnydd, Huw Jones.
“Un o uchafbwyntiau’r wythnos yn ddios i’r Undeb fydd y seremoni Coroni ar y Dydd Gwener (Mai 30). Daeth yr holl gyllid ar gyfer nawddogaeth yr Undeb o’r Goron o gronfa Merched yr Undeb Penllyn ac Edeyrnion yn Meirionnydd, ac mae’r Gangen Sirol yn eithriadol ddiolchgar am y rhodd hael iawn” dywedodd Mr Jones.
Gwnaethpwyd y Goron gan Mari Eluned o Fallwyd ger Dinas Mawddwy, a raddiodd gyda Dosbarth Cyntaf mewn Gemwaith o Brifysgol Loughborough yn 2006, ac ers hynny wedi sefydlu ei busnes ei hun yn cynhyrchu gemwaith arbenigol sy’n cyfuno llechen Gymreig ac arian.
Bydd yn mynychu Stondin UAC Dydd Llun (Mai 26) am 2.00 o’r gloch, ac ar y Dydd Gwener (Mai 31) yn dilyn Seremoni’r Coroni i roi cyflwyniad byr am y thema tu ol y gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan dymor Y Gwanwyn.
Mae un rhan o stondin yr Undeb wedi ei neilltuo drwy gydol yr wythnos ar gyfer gweithgareddau plant fydd yn cynnwys cystadlaethau, a gweithgarwch lliwio. Bydd yno hefyd sesiwn dweud stori am 1.00 ar y Dydd Llun (Mai 26) gan y nofelydd poblogaidd lleol Haf Llywelyn o Lanuwchllyn, a bydd croeso cynnes i deuluoedd Ifanc.
Digwyddiad arall poblogaidd ar gyfer y Dydd Llun fydd ymweliad gan y chwaraewraig Rygbi Ryngwadol – Elen Evans o Ddinas Mawddwy. “Mae’r teulu yn gefnogwyr brwd o’r Undeb, ac rydym yn falch iawn o’i chysylltiad agos gyda ni” meddai Mr Jones.
“Yn ddios, atyniad poblogaidd drwy gydol yr wythnos fydd arddangosfa eang o hen gelfi ac hen offer gan Mr Aeryn Jones o Langwm. Mae’n adnabyddus fel crefftwr medrus, yn waliwr a phlygwr gwrych tan gamp. Cyhoeddodd lyfr yn 2013 “Aeryn Llangwm – Moch Bach mewn Basged Ddillad” a bydd cyfle i brynu’r llyfr ar y stondin. Mae Aeryn hefyd yn ffigwr cenedlaethol ac yn enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn maes llefaru.
Fel rhan o Arddangosfa’r Undeb ar y Stondin bydd lluniau o aelodau UAC Meirionnydd gan y ffotographydd adnabyddus Chris Clunn o Maentwrog, a gyhoeddodd lyfr ar y pwnc yn 2011 a bydd cyfle pellach i brynu’r llyfr.
Dydd Mercher (Mai 28) bydd yr Heddwas Dewi Evans o Dim Atal Troseddu Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol i roi sgwrs am ei waith diweddar yn atal troseddu ac yn rhoi geiriau defnyddiol o gyngor. Mae Dewi Evans yn un o 3 Swyddog Cyswllt Gwledig gafodd eu penodi fel canlyniad i benderfyniad y Comisiynnydd Heddlu Winston Roddick i gynyddu presenoldeb yr Heddlu yng nghefn gwlad. Bydd Mr Roddick yn ymweld a stondin yr Undeb dydd Gwener Mai 30.
Ar y Dydd Iau (Mai 29) bydd y cyn Swyddog Ardal UAC – Elfed Roberts yn bresennol yn rhoi arddangosfeydd coginio, a bydd cyfle i ymwelwyr flasu cig oen a chig eidion. Bydd hefyd yn dangos sut i dorri carcas o oen Cymreig a ddylai ddenu llawer o ddiddordeb.
“Bydd yna arddangosfa o wahannol fathau o Iogwrt wedi eu cynhyrchu gan brand adnabyddus ‘Llaeth y Llan’ o Lansannan – mae gan y sylfaenwyr Gareth a Falmai Roberts gysylltiad agos gyda’r Undeb ac maent yn garedig iawn wedi noddi arddangosfa unwaith yn rhagor” meddai Mr Jones.
“Mae Hufenfa De Arfon o Chwilog hefyd wedi cytuno’n garedig i gyflenwi samplau o’u brand enwog Cawsiau Dragon. Bydd cyfle yn ystod yr wythnos i flasu y cynnyrch yma”
Bydd aelodau o Dim Llywyddol yr Undeb ynghyd a staff yn bresennol drwy gydol yr wythnos i roi diweddariad ar waith a pholisiau yr Undeb. Bydd hefyd staff o Adran Gwasanaethau Yswiriant yr Undeb yn bresennol i ddarparu gwybodaeth ac ateb ymholiadau.
[caption id="attachment_2895" align="aligncenter" width="1024"] TROSGLWYDDO’R GORON: Merched yr Undeb Penllyn ac Edeyrnion (o’r chwith) Beryl Jones, Ann Edwards, Alwen Davies, gwneuthurwraig y goron Mari Eluned ac Olwen Davies yn trosglwyddo’r goron i gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Hedd Pugh gyda (i’r chwith pellaf) llywydd UAC Emyr Jones ac (i’r dde pellaf) Huw Jones.[/caption]