Cafodd Cangen Meironnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wythnos lwyddianus dros ben yn ei safle ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala gyda llawer iawn o weithgarwch a digwyddiadau wedi eu trefnu.
Ymysg y nifer fawr o ymwelwyr oedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, gweler (ail o’r dde) gyda (o’r chwith) cadeirydd cangen Penllyn o’r undeb Dylan Davies, is-gadeirydd y gangen sirol Euros Puw a Llywydd Cenedlaethol Emyr Jones.
“Cafwyd cyfle i drafod materion cyfredol yn y diwydiant amaeth ym Meirionnydd, ac mor bwysig yw bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai swyddog sirol UAC Meirionnydd Huw Jones.
“Trafodwyd hefyd cymaint y mae amaethyddiaeth yn ei gyfrannu i’r economi weledig - i barhad yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, a bod y sir yn falch iawn o groesawu’r Eisteddfod.”
[caption id="attachment_2915" align="aligncenter" width="1024"] Ymysg y nifer fawr o ymwelwyr oedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, gweler (ail o’r dde) gyda (o’r chwith) cadeirydd cangen Penllyn o’r undeb Dylan Davies, is-gadeirydd y gangen sirol Euros Puw a Llywydd Cenedlaethol Emyr Jones.[/caption]