Cynrychiolwyr UAC yn clywed bod rhaid i siaradwyr Cymraeg chwarae mwy o ran yn yr economi

Pwysleisiodd prif weithredwr y cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes frwdfrydedd y sefydliad i annog siaradwyr Cymraeg i chwarae mwy o ran yn yr economi mewn cyfarfod o bwyllgor dwyieithrwydd a chyhoeddusrwydd Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth esbonio gwaith a strwythur y sefydliad yn Aberystwyth, dywedodd Alun Jones wrth aelodau’r pwyllgor ei bod nhw ond yn hysbysebu swyddi gwag yn y Gymraeg mewn rhannau gorllewinol o Gymru a bod y gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y mwyafrif o’r swyddi o fewn y cwmni.

Pwysleisiodd ymroddiad y cwmni i ddiogelu’r iaith Gymraeg drwy hyfforddi ei staff i weithredu yn hollol ddwyieithog ac i ddarparu hyfforddiant ychwanegol i’r aelodau hynny o staff sydd angen gwella eu gallu i siarad Cymraeg.

Dywedodd bod staff dwyieithog yn cynnig mantais gystadleuol i’r cwmni wrth gystadlu am dendrau a chytundebau.

Ar brydiau mae’n anodd recriwtio staff dwyieithog, ond mae’r cwmni yn ceisio sicrhau fod cleientiaid yn cael gwasanaeth yn yr iaith o’u dewis, trwy alw ar staff o siroedd cyfagos pe bai angen, ychwanegodd Mr Jones.

Cafodd cynrychiolydd Sir Gaerfyrddin Mansel Charles o Sarngelli, Llanegwad ei ail-ethol fel cadeirydd y pwyllgor a cafodd cynrychiolydd Ynys Môn Tegwyn Jones o Hafod, Llanfairpwll ei ethol fel is-gadeirydd.

[caption id="attachment_2920" align="aligncenter" width="672"]YMRODDIAD I’R IAITH GYMRAEG: O’r chwith, Tegwyn Jones, Alun Jones a Mansel Charles YMRODDIAD I’R IAITH GYMRAEG: O’r chwith, Tegwyn Jones, Alun Jones a Mansel Charles[/caption]