UAC yn noddi Medal Ryddiaith yr Eisteddfod

Noddir Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a’r £750 o wobr ariannol gan gangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru.  Cyflwynir y fedal am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar ddydd Mercher Awst 6 am 4yp yn yr Eisteddfod yn Llanelli (Awst 2-9).

“Mae’n anrhydedd i ni noddi’r fedal ryddiaith eleni a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod un o seremonïau’r Orsedd, pan fydd yr Archdderwydd yn arwain y seremoni ar lwyfan y pafiliwn, sy’n boblogaidd iawn ymhlith Eisteddfodwyr,” dywedodd David Waters, Swyddog Gweithredol Sirol Cangen Sir Gaerfyrddin.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gynnal ystod eang o weithgareddau ar stondin UAC yn yr Eisteddfod eleni a hefyd i groesawu aelodau’r undeb, y rhai hynny sydd ddim yn aelodau a ffrindiau am baned o de a sgwrs,” ychwanegodd Mr Waters.

[caption id="attachment_2989" align="aligncenter" width="1024"]O’r chwith, David Waters a Brian Richards, Cadeirydd Cangen Sir Gaerfyrddin o UAC yn cyflwyno’r Fedal Ryddiaith a £750 o wobr ariannol i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Gâr Gethin Thomas. O’r chwith, David Waters a Brian Richards, Cadeirydd Cangen Sir Gaerfyrddin o UAC yn cyflwyno’r Fedal Ryddiaith a £750 o wobr ariannol i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Gâr Gethin Thomas.[/caption]