Gwobr UAC yn mynd i gyflwynwraig Ffermio

Heddiw (dydd Iau Gorffennaf 24) derbyniodd Meinir Jones, cyflwynwraig Ffermio ar S4C a merch ffermwr o Sir Gaerfyrddin Wobr Goffa Bob Davies, Undeb Amaethwyr Cymru ar ôl cael ei henwebu gan ffermwyr Sir Benfro wedi iddi greu argraff arnynt gyda’i heitem ar y rhaglen am effaith TB mewn gwartheg a pholisi dileu cyfredol Llywodraeth Cymru.

Mae’r wobr - er cof am Bob Davies o’r Trallwng, gohebydd Cymreig y Farmers’ Weekly, a fu farw ym mis Tachwedd 2009 - yn cael ei gynnig i bersonoliaeth o’r cyfryngau sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, sef ffon fugail wedi cael ei cherfio’n arbennig gan wneuthurwr ffyn o Aberystwyth, Hywel Evans - oddi wrth Lywydd UAC Emyr Jones, dywedodd Miss Jones: "Hoffwn ddiolch i UAC am fy ystyried i fod yn enillydd teilwng o'r wobr.

"Mae ffermio a chefn gwlad yn agos iawn at fy nghalon gan fod fy swydd gyda Ffermio yn mynd law yn llaw gyda fy niddordeb o weithio gartref ar y fferm deuluol cig eidion, gwartheg a defaid fy rhieni Eifion a Doris a’m brawd Eirian."

Dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol, cangen Sir Benfro o UAC Rebecca Voyle: "Gall y mater o bTB a sut i gael gwared ohono fod yn ddadleuol iawn, felly roedd yr aelodau yn awyddus i gydnabod y gwaith mae Meinir a'r tîm Ffermio yn ei wneud i dynnu sylw at yr effaith mae’r clefyd yn ei gael ar y diwydiant ac i ddiolch iddi am roi llais i'r rhai sy'n dioddef o’i ganlyniadau’n ddyddiol.

"Yn benodol, creuwyd argraff fawr ar yr aelodau am y modd sympathetig y dywedodd y stori o sut effeithiodd y clefyd ar Griff Owen a'i fusnes gan gyfleu'r rhwystredigaethau beunyddiol o ffermio â'r clefyd.

"Hefyd canmolodd yr aelodau y ffordd y bu’n cyfweld Alun Davies, y Gweinidog ar y pryd a herio ei atebion i'w chwestiynau."

Magwyd Meinir ar Fferm Maesteilo yng Nghapel Isaac, ger Llandeilo, gan fynychu Ysgol eglwys yng Nghymru Llanfynydd ac Ysgol Tre-gib, Llandeilo, lle bu’n brif ferch.

Graddiodd o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 2007 a dechreuodd weithio fel ymchwilydd i Telesgop ym mis Mehefin 2007, ac mae wedi cyfarwyddo rhaglenni fel Ffermio a Digwyddiadau ers 2009.

Ers yn ifanc iawn mae Meinir wedi ymrwymo i weithio ar y fferm deuluol ar bob cyfle a roddir, a bellach mae’n mwynhau arddangos diadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig mewn nifer o sioeau drwy gydol yr haf.

Mae CFfI Llanfynydd yn diddordeb arall sy'n agos iawn at ei chalon ac mae hi'n teimlo'n ddyledus iawn i’r sefydliad sydd wedi rhoi cymaint o brofiadau bythgofiadwy iddi a hefyd wedi creu cyfeillion oes.

Mae’n cymryd rhan mewn croestoriad eang o gystadlaethau gan gynnwys siarad cyhoeddus, adloniant hanner-awr, beirniadu a chneifio.

[caption id="attachment_3010" align="aligncenter" width="640"]Meinir Jones Meinir Jones[/caption]