UAC yn hyrwyddo ffermydd teuluol yn yr Eisteddfod

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ffermydd teuluol a’u cysylltiadau gyda’r gymuned wledig ehangach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yr wythnos nesaf (Awst 2-9).

Ar ddydd Sul a dydd Llun (Awst 3-4) yr Eisteddfod bydd Nicola Dickenson, gwraig fferm o Sir Gaerfyrddin yn arddangos ei stoc o ddillad plant, “Kids Casuals” ar stondin UAC.

Yn 2001, arallgyfeiriodd Nicola o ffermio ar ôl penderfynu nad oedd incwm y fferm yn ddigon.

Gan ddefnyddio cynlluniau ei hunan sydd wedi eu seilio ar thema amaethyddol, mae’n creu crysau t, crysau chwys, capiau, a sanau i blant, a caiff y dillad eu cynllunio a’u hargraffu ar y fferm yn Esgair Fawr, Llanpumsaint.

Mae hi’n credu bod gan y dillad gysylltiad personol, ac yn pwysleisio’r thema amaethyddol sy’n cynnwys tractorau a Jac Codi Baw, ac mae’n deall pa mor ddeniadol yw'r rhain i blant o bob oedran.

Mae hi a’i g?r Martin, sy’n Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu dros blismona gwledig yng Nghaerfyrddin wedi bod yn ffermio am dros ugain mlynedd ar y fferm sy’n 72 acer gyda buches fach o wartheg sugno.

Yn y dyfodol agos, maent yn gobeithio dechrau gwerthu cig yn uniongyrchol.

Bydd cynrychiolwyr o Agri-Advisor wrth law ar y dydd Llun (Awst 4) rhwng 10yb a 4yp er mwyn rhoi cymorth ar faterion a phryderon amaethyddol.

Ar y dydd Mawrth (Awst 5) am 11yb, cynhelir trafodaeth agored ar y stondin ar ystod o bynciau gan gynnwys, troseddau gwledig a chysylltiadau plismona amaethyddol gyda Phrif Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon.

Bydd aelodau yn cael cyfle i drafod materion amaethyddol cyfredol ar y dydd Mercher (Awst 6) pan fydd yr AS Llafur Nia Griffith, AC  Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas, AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymru William Powell a Chyfarwyddwr Polisi UAC Nick Fenwick yn ymweld â’r stondin am 11yb.

Ar y prynhawn dydd Mawrth a dydd Mercher (Awst 5-6) bydd cyfle i flasu llaeth yn rhoddedig gan gyflenwyr lleol, WJ Phillips a’i Feibion o Fferm Cwm Dairy, Cwmffrwd, Caerfyrddin.

Mae’r busnes teuluol, a sefydlwyd dros 45 mlynedd yn ôl yn dosbarthu llaeth i gartrefi a busnesau mewn ardal sy’n ymestyn o Sanclêr i Bontiets.  Un o’i busnesau nhw yw Bwydydd Castell Howell.

Prynodd y teulu'r rownd laeth ym 1969 oddi wrth aelod UAC, Brian Thomas, Gelliddu, Caerfyrddin.  Erbyn hyn, Mike a Dorian, meibion Mr Phillips sy’n rhedeg y busnes.

Maent yn godro 90 o wartheg Holstein Freisian, gyda 55 o ddilynwyr, yn berchen ar 85 o aceri ac yn rhenti 25 acer arall.

“Beth sy'n gwneud eu llaeth yn arbennig a beth mae’r cwsmeriaid yn hoffi yw'r ffaith bod nhw’n gallu dewis rhwng llaeth homogenaidd neu laeth heb ei homogeneiddio ac rydym yn edrych ymlaen at flasu,” dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol, cangen Sir Gaerfyrddin UAC David Waters.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at seremoni’r Fedal Ryddiaith ar y dydd Mercher am 4yp.

“Mae’r wobr urddasol yn cael ei chyflwyno am y darn gorau o ryddiaith ar y testun ‘Gwrthdaro’ a noddwyd y wobr ariannol o £750 gan gangen Sir Gaerfyrddin o UAC,” ychwanegodd Mr Waters.

Ar y dydd Iau a dydd Gwener (Awst 6-7) bydd gwëydd lleol, Judy Roberts yn arddangos ei sgiliau crefftus.

Mae wedi bod yn nyddu ers 40 mlynedd gan ddylunio dillad a phatrymau sy’n addas i’r edafedd a gynhyrchir.

Mae’n cymysgu ffibrau naturiol megis sidan, gwlân, alpaca, cashmir, angora, iac a chamel er mwyn cynhyrchu edafedd rhagorol.

Mae wedi bod yn dysgu gwau a dylunio gweuwaith yn Llandeilo ac yn cynnal gr?p gweu wythnosol yn Llanarthne yn ogystal â darparu hyfforddiant personol ar y grefft o nyddu.

“Trwy gydol yr wythnos, bydd plant yn gallu cystadlu mewn cystadlaethau lliwio ar y thema amaethyddol gydag ystod eang o wobrau.  Gofynnir

iddynt hefyd ddod o hyd i dag clust Tegwen y fuwch wrth iddi deithio ar draws y wlad.

“Gall y plant ddewis sgwâr ar fwrdd rhifo lliwgar i ddyfalu lle mae wedi colli ei thag clust ar ei thaith ar draws Cymru.

“Mae bob sgwâr yn costio £1 a bydd yr arian yn mynd tuag at elusennau hosbisau plant T? Hafan a T? Gobaith.

“Bydd cynrychiolydd o CFfI Cymru a RABI ar y stondin bob dydd ac edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o ymgynghorwyr tir Philip Meade i’n stondin ar ddiwedd yr wythnos,” ychwanegodd Mr Waters.

Bydd croeso cynnes a lluniaeth ysgafn ar gael trwy gydol yr wythnos a bydd aelodau o staff cangen Sir Gaerfyrddin o UAC ar gael i drafod materion amaethyddol cyffredinol.