Derbyniodd ymwelwyr i fferm Pentre, Cwmtirmynach groeso cynnes ar ddydd Llun Medi 29 wrth gyfarfod ac aelodau Undeb Amaethwyr Cymru Arfon a Rhian Williams, Ll?r Huws Gruffudd AC a FWAG Cymru.
Bu’r ymweliad, a drefnwyd gan gangen Meirionnydd o UAC a FWAG Cymru yn gyfle i aelodau weld y tir, stoc, a’r gwahanol elfennau o’r cynllun Glastir ac i’r ymwelwyr drafod y polisïau amaethyddol diweddaraf.
Lleolir Pentre oddeutu 6 milltir i’r gogledd ddwyrain o’r Bala ac mae’r fferm deuluol yn ymestyn i 250 hectar ar Ystâd y Rhiwlas. Mae 145 hectar yn fynydd, a cedwir dros 20 hectar er mwyn tyfu silwair yn flynyddol.
Mae’r teulu’n cadw safon uchel o stoc, sy’n cynnwys 450 o famogiaid, 300 ohonynt yn famogiaid Cymraeg a 150 yn famogiaid croes Cheviots a hanner brid. Mae Arfon a Rhian yn defnyddio hyrddod Beltex a Texel a hefyd am y tro cyntaf yn 2014 defnyddiwyd hwrdd Berrichon du cher. Maent hefyd yn cadw 25 o Wartheg Duon Cymreig pur ac mae Arfon yn aelod amlwg o Gymdeithas y Gwartheg Duon.
“Mae ganddynt ddiddordeb mawr mewn magu defaid Llanwenog ac mae’r teulu yn mwynhau dangos mewn sioeau a mynychu arwerthiannau’r brid yn Llanybydder. Mae’r teulu wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd gan gynnwys ennill pencampwriaeth y brid yn y Sioe Frenhinol” dywedodd swyddog gweithredol sirol UAC Meirionnydd Huw Jones.
Mae Pentre wedi medru cymryd mantais o gynlluniau amaeth-amgylcheddol dros y blynyddoedd, ac mae’r teulu yn gweld ffermio a chadwraeth yn mynd law yn llaw. Bu’r fferm yn rhan o Gynllun Tir Cymen pan dewiswyd Meirionnydd fel ardal beilot yn y 1990au ac yna bu’r fferm yn rhan o Gynllun Tir Gofal hyd nes ymuno a’r Cynllun Glastir yn 2014.
Bu’r fferm hefyd yn ffodus o gael ei dewis ar gyfer Cynllun Glastir Uwch i gyd redeg gyda’r Cynllun Glastir Sylfaenol ers ddechrau 2014.
Mae Arfon Williams a’i deulu wedi dal tenantiaeth Pentre ers 2001. Mae’n briod a Rhian ac mae ganddynt 3 o blant, Lleucu 15, Deio 14 ac Owen Clwyd yn 2. Mae Deio eisoes wedi dangos diddordeb mewn parhau i ffermio yn Pentre.
Mae ardal Cwmtirmynach yn gadarnle i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ac mae Arfon ei hun yn wyneb adnabyddus ym maes canu cerdd dant ac wedi beirniadu ar lefel genedlaethol ar sawl achlysur.
Mae hefyd yn cyfrannu’n helaeth at weithgareddau’r gymuned o fewn ei ardal a bu’n gadeirydd o’i neuadd bentref lleol yng Nghwmtirmynach.
“Hoffwn ddiolch i Arfon a’i deulu am gynnal yr ymweliad heddiw. Mae wedi bod yn hynod o ddiddorol gweld sut maent yn rhedeg y busnes, ac rwyf am ddiolch i Birch Farm Plastics am noddi’r lluniaeth”, ychwanegodd Mr Jones.
[caption id="attachment_3086" align="aligncenter" width="640"] Llyr Huws Gruffudd yn anerch y gynulleidfa.[/caption]
[caption id="attachment_3087" align="aligncenter" width="640"] O’r chwith, swyddog sirol UAC Meirionnydd Huw Jones, cadeirydd pwyllgor FWAG Gogledd Cymru Richard Tomlinson, Llyr Huws Gruffudd AC, cyfarwyddwr polisi UAC Nick Fenwick, llywydd yr undeb Emyr Jones, llywydd UAC Meirioinnydd Robert W Evans, cyfarwyddwraig FWAG Cymru Glenda Thomas, is-gadeirydd UAC Meirionnydd Euros Puw ac Arfon Williams, Pentre.[/caption]