Mae APHA wrthi’n cynorthwyo gyda Rheolaeth Gynaliadwy o Barasitiaid mewn Defaid (SCOPS) drwy greu gwasanaeth Rhagolygon Nematodirus.
Mae Nematodirosis yn glefyd hynod o gas mewn ŵyn, sy’n arwain at nifer fawr o farwolaethau ac yn amharu ar dyfiant llawer o rai eraill. Fe’i achosir gan y llyngyr Nematodirus battus, sydd â chylch oes gwahanol i lyngyr defaid eraill. Dan rhai amodau hinsawdd, gall daro’n sydyn iawn, heb ddim, neu fawr ddim rhybudd.
Mae Gwasanaeth Rhagolygon Nematodirus SCOPS wedi bod ar waith ers diwedd Chwefror. Mae’r map rhagolygon yn cael ei ddiweddaru bob dydd, gan ddefnyddio data 140 o orsafoedd tywydd (a ddarperir gan y Swyddfa Dywydd), ac mae’n tracio newidiadau o ran risg trwy gydol y gwanwyn a’r haf cynnar.
Mae’r map Google rhyngweithiol yn caniatáu i ffermwyr a chynghorwyr ddewis yr orsaf dywydd agosaf neu fwyaf cynrychioladol, ac yna mae’n darparu cyngor ar sut i bennu’r risg perthynol i’w fferm nhw, yr opsiynau o ran triniaeth, a chamau rheoli posib. Dylai ffermwyr defaid ymgynghori â’u milfeddyg neu gynghorydd ynghylch risgiau lleol, a thrin ŵyn os bernir eu bod yn wynebu risg.
I gael mwy o wybodaeth ac i ddefnyddio gwasanaeth rhagolygon Nematodirus ewch i: