STONDIN EISTEDDFOD YR URDD UAC YN AMLYGU CYNNYRCH AC ATYNIADAU O FFERMYDD Y SIR

Mi fydd yr ansawdd uchel o gynnyrch fferm lleol yn cael ei bwysleisio ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd i'w chynnal ar gampws Coleg Meirion Dwyfor Glynllifon ger Caernarfon yr wythnos nesaf.

Bydd mapiau'n dangos y cynnyrch sydd ar gael a'r nifer o atyniadau gwahanol sydd arnynt i bawb eu mwynhau ar ffermydd o fewn yr hen Sir Gaernarfon, thema sy'n amlygu ymgyrch cenedlaethol UAC sef "Rwy'n caru bwyd Cymreig".

Hefyd bydd yna gystadleuaeth chwilair yn ymwneud â chynnyrch fferm yn cael ei chynnal yn ddyddiol o ddydd Llun tan ddydd Iau (Mehefin 4-7) gyda gwobrau cyffrous i'w hennill yn cynnwys camerâu Samsung PL121, Nintendo 3DS lliw glas gyda gêm Mario a chês, ac iPod Touch 8GB gyda doc ar gyfer yr iPod a chês.

Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (Mehefin 8-9), bydd cyfle i bawb ateb cyfres o gwestiynnau am ddiwydiant amaeth y sir a chael y cyfle i ennill Kindle Touch a chês, a ffôn symudol Samsung Y. Noddwyd yr holl gystadlaethau gan gwmnïau Wynnstay, cyflenwyr amaethyddol, Davis Meade, Cyfreithwyr Gamlins, Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain, Cynghorwyr Annibynnol Sterling a W H Evans, Felin Llecheiddior.

Mae disgwyl i'r stondin fod yn ferw o brysurdeb drwy gydol yr wythnos ar gyfer pob oedran gydag arddangosfeydd o gynnyrch sy'n gwneud bwydydd anifeiliaid gan Mr Meurig Huws o Gwmni Wynnstay, a gwahanol gynnyrch a wneir allan o wlân gan y Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain.

Bydd croeso cynnes a phaned o de yn disgwyl pawb ar y stondin lliwgar sydd wedi cael ei haddurno gan flodau'n rhoddedig yn hael gan Ganolfan Arddio Bryncir.

Ymysg cystadlaethau eraill sydd i'w cynnal yn ystod yr wythnos mae lliwio ar gyfer plant, a'r gwobrau ar gyfer rhain fydd tractor mawr coch neu dractor mawr glas all plentyn eistedd arnynt, yn rhoddedig gan Emyr Evans a'i Gwmni, Gaerwen a Dinbych, a Thractors Menai o Lanwnda.

O lenwi holiadur UAC/BT, caiff ymwelwyr y cyfle i ennill ffôn a pheiriant ateb ar gyfer y cartref neu'r swyddfa a bydd aelodau o Ffederasiwn CFfI Eryri yn peintio gwynebau ar y stondin trwy gydol yr wythnos. Yn ogystal, bydd yna gyfle i blant wrando ar Margiad Roberts yn darllen straeon am y cymeriad poblogaidd.

Mae cyfle hefyd i ennill gwobrau amrywiol wrth "odro" Seren - model gwir faint o fuwch odro, sydd ar fenthyg o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Rhowch gynnig ar faint o laeth medrwch "odro" mewn i fwced mewn 30 eiliad a dyfalu faint o anifeiliaid fferm sydd yn y botel.

Noddwyr gweithgareddau'r wythnos yw aelodau o dîm Gwasanaethau Yswiriant FUW sef Gwasanaeth Yswiriant BIBU, Gwasanaeth Yswiriant Rural a Gwasanaeth Yswiriant Farmweb.