UAC YN MYND A EISTEDDFODWYR NÔL MEWN AMSER

MI fydd stondin Undeb Amaethwyr Cymru (rhif 115-116) yn fwrlwm o brysurdeb yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandw ym Mro Morgannwg (Awst 4-Awst 11) pan fydd ymwelwyr yn mynd ar daith nôl mewn amser wrth weld arddangosfa o offer fferm a ffotograffau.

Bydd cyfle iddynt ddyfalu enwau a defnydd yr hen offer fferm, ac edrych ar ffotograffiau o beiriannau amaethyddol sydd wedi cael eu hadnewyddu i'w ffurf weithiol o eiddo Lydric Jenkins, aelod UAC.

Bydd y stondin yn dangos ychydig o ddiddordeb oes Mr Jenkins er mwyn cyfleu gwaith ymroddedig ffermwyr Cymru.

Hefyd bydd Eisteddfodwyr yn cael eu hannog i ddangos eu cefnogaeth i ffermwyr llaeth Cymru wrth arwyddo llythyr agored i'r archfarchnadoedd a phroseswyr llaeth  yn pwysleisio'r angen  i bawb sydd ynghlwm a'r gadwyn gyflenwi llaeth i weithio gyda'i gilydd i sicrhau pris derbyniol a chynaliadwy i'w dderbyn gan bawb.

Bydd model gwir faint o fuwch odro o'r enw Tegwen, sydd wedi'i phaentio'n lliwiau baner Cymru yn pwysleisio ymgyrch UAC i sicrhau pris teg am laeth yn ystod yr ?yl.

I gefnogi ymgyrch llaeth teg yr Undeb, bydd amrywiaeth o ddiodydd llaeth organig o wahanol flasau, sy'n cael eu cynhyrchu yn Sir Benfro gan gwmni teuluol Trioni Cyf a roddir allan gan Daioni ar gael i blant i'w blasu.

"Gan bod yr Eisteddfod yn gymysg eclectig o'r hen a'r newydd yn ogystal â dathliad o Gymru a'i diwylliant, rydym yn llawn cyffro wrth ddathlu'r hen ddulliau o ffermio ac yn cynnig mewnwelediad i'r dulliau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ein bwyd," dywedodd Rachel Taylor, swyddog gweithrol sirol Morgannwg.

"Rydym yn hynod o falch o gael y cyfle i gefnogi'r Eisteddfod ym Morgannwg, ac rydym am groesawu ymwelwyr i stondin UAC drwy gydol wythnos yr ?yl ar gyfer llunieth," ychwanegodd Miss Taylor.

Mae Davis Meade, ymgynghorwyr eiddo'r Undeb a chwmni egni E-ON hefyd yn gweithio ar y cyd gyda UAC er mwyn cynnig asesiadau egni ar gyfer busnesau fferm ymwelwyr ac i sicrhau bod ffermwyr yn derbyn y pris gorau posib am eu cyflenwad trydan.

Bydd UAC hefyd yn hyrwyddo ei chynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch sy'n astudio cyrsiau amaethyddol.