O fewn y byd amaethyddol, cydnabuwyd ers amser maith bod achosion TB yn arwain at nifer o ganlyniadau, megis colli stoc, problemau gyda llif arian, costau cadw a bwydo stoc ychwanegol, colli rheolaeth fusnes ac ansicrwydd dros y dyfodol. Mae'n anochel bod pob un o'r rhain yn cael effaith ar les emosiynol teuluoedd amaethyddol.
Fodd bynnag, mae'n debyg bod y gwir effaith yn cael ei gamfarnu. Mae Rebecca John, ffermwr 3ydd cenhedlaeth o Sir Benfro, yn gofyn cwestiwn perthnasol - sut mae achos o TB ar fferm yn effeithio ein hiechyd meddwl?
Yn gyfarwydd â hynt a helynt amaethyddiaeth a ffermio da byw yn Sir Benfro, mae Rebecca’n hen gyfarwydd a gweld milfeddygon yn galw i wneud profion TB ar y fferm deuluol Rinaston, ger Hwlffordd, lle maent yn cadw gwartheg bîff, defaid ac yn godro.
“I raddau, mae pawb yn deall bod ffermwyr sy’n ceisio rhedeg eu busnes yn sgil achos o TB yn agos i’r dibyn. O ystyried bod cysylltiad annatod rhwng iechyd meddwl a chynaliadwyedd a diddyledrwydd busnes fferm, mae'n rhaid i ni ddeall canlyniadau'r clefyd hwn ar lawr gwlad.