Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru o Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych wedi amlinellu eu pryderon a’u gwrthwynebiadau i’r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia mewn cyfarfod diweddar ag AS Aberconwy, Robin Millar.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, a gynhaliwyd gan Lywydd UAC Glyn Roberts ar ei fferm, Dylasau Uchaf, ger Betws y Coed, dywedodd Dafydd Gwyndaf, Aelod o Bwyllgor Gweithredol UAC Sir Gaernarfon: “Gwnaethom yn glir iawn yn ein cyfarfod â Robin Millar AS bod cytundebau masnach yn rhwymo Llywodraethau'r DU presennol a rhai’r dyfodol, ac felly bod angen amser ac ystyriaeth drylwyr ohonynt.
“Ni ddylid eu rhuthro o dan unrhyw amgylchiadau, ond dyna sy’n digwydd yma, ac ar ben hynny ni fydd Senedd y DU yn gallu archwilio na chael y gair diwethaf ar gytundeb yn y ffordd y mae cenhedloedd democrataidd eraill yn ei wneud.”
Dywedodd Mr Gwyndaf fod UAC felly wedi gofyn iddo wneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu cytundeb masnach o'r fath a sicrhau bod yna archwiliad manwl yn digwydd.
“Mae’r problemau eithafol rydyn ni’n eu gweld yng Ngogledd Iwerddon oherwydd y protocol yn dangos beth sy’n digwydd pan nad yw gwleidyddion yn gwrando ar rybuddion clir ac yn rhuthro pethau drwodd er mwyn cwrdd ag amserlen hunanosodedig, ond dyna’n union beth sy’n digwydd o ran cytundeb Awstralia.