Bum mlynedd yn ôl, cyn etholiadau Senedd Cymru 2016, rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) am yr heriau digynsail oedd yn wynebu Aelodau newydd y Senedd a’r Llywodraeth. Ers hynny mae'r heriau hynny, nid yn unig wedi dod yn realiti ond wedi gwaethygu ac ychwanegu atynt.
Gan amlinellu’r materion mawr sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd i’r wasg, a lansiodd Maniffesto Etholiad Senedd Cymru 2021 UAC, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae’n amlwg bellach bod ffurf llawer caletach o Brexit nag a addawyd gan y rhai a fu’n lobïo dros ein hymadawiad o'r UE wedi cyfyngu mynediad i'n prif farchnadoedd allforio ar y cyfandir.
“Ar yr un pryd, mae pandemig parhaus Covid-19 wedi newid ein bywydau y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd ac yn amlygu pa mor fregus yw’r cadwyni cyflenwi bwyd byd eang a phwysigrwydd cael sector ffermio cryf y gall ein marchnadoedd domestig ddibynnu arno am nwyddau.
“Er bod materion o’r fath wedi bod y tu hwnt i reolaeth ein gweinyddiaethau datganoledig i raddau helaeth, mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ansicrwydd a’r heriau sy’n wynebu ein sector amaeth wedi bod yn ddryslyd ac yn wrthgyferbyniol ar adegau, a hynny’n bennaf oherwydd yr awch i gynyddu costau a chyfyngiadau yn sylweddol wrth gynnig diwygiadau amhrofedig o bolisïau cymorth gwledig.”
Yn y cyfamser, mae toriadau Llywodraeth y DU i gyllid gwledig Cymru - mewn gwrthgyferbyniad uniongyrchol ag addewidion a wnaed dro ar ôl tro gan y rhai a oedd o blaid Brexit - wedi ychwanegu at y pwysau ar amaethyddiaeth Cymru, yr economi wledig a Llywodraeth Cymru, meddai Llywydd yr Undeb.