Mae teulu ffermio o Ogledd Cymru yn arwain y ffordd wrth edrych ar ôl yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd, ar ôl ymgymryd â gwaith adfer helaeth o fawndir ar eu fferm yn ddiweddar ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Mawndiroedd Cymru i ddatblygu'r prosiect Cod Mawndir cyntaf yng Nghymru.
Mae'r teulu Roberts, sydd wedi ffermio yn Fferm Pennant, Llanymawddwy ers sawl cenhedlaeth, yn cadw gwartheg bîff a defaid, defaid mynydd yn bennaf a rhai croesfridiau. Maent hefyd yn cadw buches sugno fach a defaid croesfrid ar dir isel ac mae'r teulu wedi arallgyfeirio i lety gwyliau. Mae yna ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb o ran edrych ar ôl yr amgylchedd a chreu cynefinoedd bioamrywiol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.
Wrth wireddu eu huchelgeisiau amgylcheddol, aeth aelodau Undeb Amaethwyr Cymru, Lisa a Sion Roberts, ati i wneud gwaith adfer i ail-broffilio a chau torlannau mawn a rhigolau ar draws safle Bwlch y Groes, a contractwyr mawndir profiadol fu’n gyfrifol am y gwaith ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021.