Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru o Ynys Môn wedi amlinellu eu pryderon a’u gwrthwynebiadau i’r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia mewn cyfarfod gyda’u AS lleol Virginia Crosbie a Gweinidog Polisi Masnach y DU, Greg Hands.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dywedodd Swyddog Gweithredol Sir UAC Ynys Môn, Alaw Jones: “Gwnaethom yn glir iawn yn ein cyfarfod â Virginia Crosbie a Greg Hands bod cytundebau masnach yn rhwymo Llywodraethau'r DU presennol a rhai’r dyfodol, ac felly bod angen amser ac ystyriaeth drylwyr ohonynt.
“Ni ddylid eu rhuthro o dan unrhyw amgylchiadau, ond dyna sy’n digwydd yma, ac ar ben hynny ni fydd Senedd y DU yn gallu archwilio na chael y gair diwethaf ar gytundeb yn y ffordd y mae cenhedloedd democrataidd eraill yn ei wneud.”
Dywedodd Ms Jones fod UAC felly wedi gofyn iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i wrthwynebu cytundeb masnach o'r fath a sicrhau bod yna archwiliad manwl yn digwydd.