Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), mewn cydweithrediad â’r DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru, yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn cam-drin domestig yn ein cymunedau ers i gyfyngiadau Covid 19 ddod i rym llynedd.
Mae yna lawer o sgileffeithiau yn deillio o gam-drin domestig, gan gynnwys datblygu gorbryder, iselder a chyflyrau iechyd meddwl eraill, ac ymrwymodd UAC i gadw'r sylw ar faterion iechyd meddwl cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig, ac mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer.
I lawer o bobl, nid yw'r cartref yn lle diogel ac mae cyfyngiadau Covid-19 wedi cynyddu'r unigedd a ddioddefir gan lawer, sy'n aml yn cael ei waethygu yn ein cymunedau gwledig. Mae hefyd wedi bod yn anoddach i ddioddefwyr cam-drin domestig i ofyn am gymorth ar adeg pan mae nifer yr achosion o gam-drin domestig wedi cynyddu, sydd hyd yn oed yn fwy dwys yn rhai o'n cymunedau gwledig ynysig.
Yn ôl yr Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr rhwng Mawrth 2020 a 2021, bu twf o 7% yn y troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu ond mae gwasanaethau cymorth wedi gweld cynnydd mwy, gyda llawer o ddioddefwyr ddim yn ceisio cyfiawnder trwy'r system cyfiawnder troseddol. Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi gweld cynnydd o 12% yn nifer yr achosion cam-drin domestig a gyfeiriwyd ac mae llawer o elusennau fel y DPJ Foundation wedi gweld cynnydd mewn galwadau ynghylch cam-drin domestig dros yr amser hwn.