Clywodd ffermwyr yng Nghymru, sy'n rhwystredig gydag ymosodiadau cŵn ar dda byw parhaus, y gallai newidiadau arfaethedig i'r gyfraith helpu heddluoedd ledled Cymru a Lloegr i ddelio â digwyddiadau o'r fath yn fwy effeithiol ac atal perchnogion cŵn anghyfrifol rhag achosi difrod gwerth miloedd o bunnoedd i'r diwydiant da byw.
Wrth siarad mewn gweminar gwybodaeth ar gŵn yn poeni da byw, a gynhaliwyd ar y cyd rhwng CFfI ac Undeb Amaethwyr Cymru, eglurodd Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd grŵp Troseddau Da Byw Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu Rob Taylor, bod Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953 yn wan ac nid yw bellach yn cyflawni ei diben.
“Mae'r Ddeddf yn dyddio o ddechrau'r 1950au pan oedd ffermio a phlismona yn cael eu hymarfer yn wahanol. Gall pob un ohonom gytuno bod y ddwy alwedigaeth wedi esblygu ers hynny ac nad yw'r ddeddf yn adlewyrchu arferion modern. Er enghraifft yn 2021, nid yw'r Ddeddf yn caniatáu i'r heddlu gael gafael ar DNA, nid yw'n caniatáu i ni erlyn perchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar Alpacaod a Lamaod, nid yw'n caniatáu i ni erlyn os digwyddodd yr ymosodiad ar dir sydd ddim yn dir amaethyddol, nid oes gennym yr opsiwn o orchmynion gwahardd. Os yw ci yn destun gorchymyn rheoli neu ddinistrio yn y llys, nid oes gan Ddeddf 1953 unrhyw bwerau i'r llys gyfeirio atynt a'u defnyddio. Rhaid i'r llys hefyd fenthyg deddfau o hen weithred sifil Fictoraidd sef Deddf Cŵn 1871, a gall hyn achosi dryswch i'r Heddlu a'r llys fel ei gilydd,” meddai.