[caption id="attachment_7012" align="alignleft" width="300"] Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn hyrwyddo’r manteision o laeth a chynnyrch llaeth yn Ffair y Glas Prifysgol Aberystwyth.[/caption]
Yn ddiweddar mae myfyrwyr newydd Aberystwyth wedi dysgu am y manteision o yfed llaeth ac o’i gynnwys fel rhan o’i diet bob dydd wrth i Undeb Amaethwyr Cymru roi samplau llaeth â blas am ddim allan i fyfyrwyr ar y campws.
Ymunodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn Ffair y Glas Prifysgol Aberystwyth ac mi ddywedodd: “Nid yw yfed llaeth a’i gynnwys yn eich diet dyddiol yn cael ei llwyr werthfawrogi ac rwy’n hynod o falch ein bod ni wedi trosglwyddo’r neges yma i’r myfyrwyr flwyddyn gyntaf heddiw. Mae llaeth a chynnych llaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein diet bob dydd gan eu bod nhw’n darparu ffynhonnell bwysig o brotein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, ac mae’r cyfan oll yn bwysig i ddiet cytbwys.
“Mae nifer o fanteision arall sy'n gysylltiedig â yfed llaeth, rhai ohonynt nid oedd y myfyrwyr yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, gall y fitaminau a mwynau sydd mewn llaeth liniaru straen. Ar ôl diwrnod hir a chaled o ddarlithoedd ac astudio, eisteddwch i lawr ac yfed gwydraid o laeth cynnes. Mae wir yn medru helpu i leddfu tensiwn yn y cyhyrau a lleddfu’r nerfau.
[caption id="attachment_7014" align="alignleft" width="300"] Mared Rand Jones o UAC yn hyrwyddo’r manteision o yfed llaeth i fyfyrwyr newydd Prifysgol Aberystwyth.[/caption]
"Mae llaeth yn wych ar gyfer llawer o bethau ac yn medru rhoi hwb i’ch lefelau egni. Os ydych yn straffaglu drwy’r diwrnod, beth am wydraid o laeth oer i adfer y lefelau egni mewn dim o amser ac yn llawer iachach na llawer o ddiodydd egni llawn siwgr.”
Mae UAC hefyd am annog y myfyrwyr newydd i sicrhau eu bod yn prynu llaeth a chynnyrch llaeth Cymreig wrth wneud y siopa bwyd.
"Rydym hefyd am ddefnyddio'r cyfle hwn i annog myfyrwyr i wneud yn si?r eu bod yn prynu llaeth a chynnyrch llaeth Cymreig megis menyn, caws ac iogwrt. Wrth wneud hyn, maent yn cefnogi ein diwydiannau llaeth ac wrth gwrs yr ail a thrydydd busnes sector sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Mae ein ffermwyr llaeth wedi dioddef amser caled dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen cymaint o gefnogaeth a phosib – mae prynu cynnyrch Cymreig pryd bynnag y gallwn yn rhywbeth mae pob un ohonom yn gallu ei wneud i gefnogi'r achos a rhoi hwb i'r economi wledig wrth wneud hynny," ychwanegodd.
[caption id="attachment_7013" align="aligncenter" width="300"] Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Dr Rhodri Llwyd Morgan.[/caption]