Brecwastau Meirionnydd yn Llwyddiant Ysgubol

Cynhaliodd Cangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru dri brecwast llwyddiannus iawn  i gyfuno â digwyddiad blynyddol Wythnos Brecwast Fferm (Ionawr 25-31) - ymgyrch a drefnwyd ers y flwyddyn 2000 gan yr ‘Home Grown Cereals Authority’ (HGCA) .

Ar Ddydd Llun, Ionawr 26, cynhaliwyd brecwast gan Olwen a Nia Davies, T? Cerrig, yn Ysgol y Parc, ger Bala, ar Ddydd Iau Ionawr 29 gwnaeth Berwyn, Cerys a Beryl Hughes gynnal brecwast yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy, a chynhaliwyd y brecwast olaf gan Dewi a Meinir Owen ar Ddydd Gwener Ionawr 30 yn Esgairgyfela, Aberdyfi.

“Diben y brecwastau oedd tynnu sylw at y manteision o fwyta brecwast iach a dod a’r gymuned at ei gilydd i drafod pynciau amaethyddol ac, wrth gwrs, i flasu’r gorau o gynnyrch Cymreig, ond yn ogystal i godi arian at elusennau dewisol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Mr Emyr Jones, sef T? Gobaith a T? Hafan”, meddai Swyddog Gweithredol Sirol Meirionnydd, Mr Huw Jones.

Ychwanegodd Mr Jones,“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi codi tua £1,150 yn y Sir tuag at yr elusennau, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi noddi’r digwyddiadau, i bawb a roddodd gymorth gyda’r trefniadau ac i bawb a fynychodd y brecwastau”.

[caption id="attachment_4366" align="aligncenter" width="300"]From left, Nia and Olwen Davies with some of the keen helpers. From left, Nia and Olwen Davies with some of the keen helpers.[/caption]

[caption id="attachment_4365" align="aligncenter" width="300"]From left, Lord Dafydd Elis Thomas AM, Dewi and Meinir Owen, FUW Insurance managing director Mark Roberts, FUW Meirionnydd county president Robert W Evans, North Wales Police rural crime officer Dewi Evans and FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones. From left, Lord Dafydd Elis Thomas AM, Dewi and Meinir Owen, FUW Insurance managing director Mark Roberts, FUW Meirionnydd county president Robert W Evans, North Wales Police rural crime officer Dewi Evans and FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones.[/caption]

[caption id="attachment_4364" align="aligncenter" width="300"]From left, Beryl Hughes, FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones, FUW president Emyr Jones, Plaid Cymru election candidate Liz Saville Roberts and Cynan, Ceris and Berwyn Hughes. From left, Beryl Hughes, FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones, FUW president Emyr Jones, Plaid Cymru election candidate Liz Saville Roberts and Cynan, Ceris and Berwyn Hughes.[/caption]

UAC Ceredigion yn dathlu cynnyrch lleol gyda brecwastau ffermdy

Ymunodd cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn yr ymdrech i amlygu’r pwysigrwydd o gael brecwast da drwy drefnu dau frecwast yn ystod yr Wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol a gynhelir rhwng Ionawr 25 a 31.

Ar fore dydd Mawrth Ionawr 27, agorwyd drysau Tynrhyd, Pontarfynach, Aberystwyth gan aelodau UAC Siân a Gareth Price, a chroesawyd y gymuned wledig am frecwast yn ei hysgubor sydd wedi ei drawsnewid i fod yn fusnes newydd sy’n gallu cynnal priodasau, cynadleddau, lleoliad ar gyfer gweithgareddau tîm yn ogystal â llety hunan-ddarpar.

Cynhaliwyd yr ail frecwast gan Arwel a Mary Davies, Fferm Pantswllt, Talgarreg yn Neuadd Goffa Talgarreg ar fore dydd Mercher Ionawr 28.

“Roedd hyn unwaith eto yn gyfle gwych i gael brecwast Cymreig gwych wedi cael ei baratoi trwy ddefnyddio eitemau’n rhoddedig gan gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol megis Wyau Buarth Birchgrove, Bara Gwalia o Lanybydder, Owain y cigydd o Aberaeron, y cigydd o Lanon ac aelod UAC Ben Evans a Costcutters Aberaeron.  Roedd hefyd yn gyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd i drafod y newid sydd ar fin digwydd i’r system taliadau’r PAC sy’n seiliedig ar arwynebedd ac i drafod Cynllun y Taliad Sylfaenol” dywedodd Caryl Wyn-Jones, swyddog gweithredol sirol, cangen Ceredigion.

“Nid y brecwast gwych yn unig oedd o dan sylw yma.  Rydym yn creu cyfleoedd i ffermwyr ar draws y sir i drafod y polisïau amaethyddol Cymreig cyfredol a bu’n gyfle i ni fel Undeb i glywed eu pryderon a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynrychioli.

“Llwyddwyd hefyd i godi £500 i elusennau’r Llywydd sef T? Gobaith a T? Hafan a hoffwn ddiolch i’n holl aelodau a’r staff am eu cefnogaeth barhaol” ychwanegodd Miss Wyn-Jones.

Aelodau UAC yn datgan pryderon am bris llaeth

[caption id="attachment_4220" align="aligncenter" width="300"]from left to right – FUW senior policy officer Dr Hazel Wright with local AM Alun Ffred Jones and shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM from left to right – FUW senior policy officer Dr Hazel Wright with local AM Alun Ffred Jones and shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM[/caption]

Mae aelodau UAC yn Sir Gaernarfon heddiw (Llun 19eg Ionawr) wedi trafod yr argyfwng presennol ym mhris llaeth efo’r Aelod Cynulliad lleol, Alun Ffred Jones ar fferm yr Is-gadeirydd Sirol, Mr Tudur Parry, Pengelli Isaf, Ffordd Bethel, Caernarfon.

Mae Mr Parry yn ffermio 280 erw yn ymyl Caernarfon.  Mae ganddo fuches o 125 o wartheg godro Holstein Friesian, 40 o heffrod amnewid yn flynyddol, a 80 o fuchod stôr a werthir yn y farchnad da byw. Mae’r teulu hefyd yn cadw diadell o 250 o famogiaid ‘Suffolk X’ a ‘Mule’ gyda’r holl ?yn yn cael ei gwerthu ar y bachyn.

Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn anhapus dros ben gyda’r prisiau isel parhaol a’r proffidioldeb gwael, ac mae’r Undeb yn bryderus iawn fod adferiad byd-eang pris y farchnad yn bell iawn i ffwrdd oherwydd yr anghydbwysedd parhaus yn y cyflenwad a’r galw amdano.

Ar ôl yr ymweliad dywedodd Mr Parry: “Mae’r prisiau isel sy’n bodoli ar hyn o bryd yn anghynaladwy a bydd y diwydiant yn gweld hyd yn oed mwy o gwymp yn nifer y cynhyrchwyr gan fod hyd yn oed y rhai mwyaf proffidiol yn ei chael yn anodd goroesi yn y farchnad bresennol.

“Mae’r penderfyniad felly gan ‘First Milk’ i ohirio sieciau llaeth am bythefnos yn dod ar amser pan mae llawer o gynhyrchwyr llaeth mewn trafferthion yn dilyn misoedd ar fisoedd o brisiau isel amhroffidiol.  Mae’r oedi yma yn codi pryderon pellach am y ffordd orau i ddelio gydag anwadalrwydd y farchnad laeth byd-eang a’i effaith ar hyfywedd ffermydd llaeth yng Nghymru.”

Ychwanegodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Gaernarfon, Mr Gwynedd Watkin: “ Mae ffermwyr llaeth Cymru ymysg y gorau yn y byd ond eto mae’r llaeth yn parhau i gael ei ddibrisio gan yr archfarchnadoedd.  Mae hyn yn anghyfiawnder i’r cynhyrchwyr llaeth sy’n hollol ymroddedig at gynhyrchu rhywbeth mor werthfawr. Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle heddiw i drafod y mater gyda’n Aelod Cynulliad lleol.”

Aelodau UAC i drafod dyfodol ffermio

Bydd aelodau’n cael cyfle i edrych ar sefyllfa bresennol y diwydiant amaethyddol ac ystyried y dyfodol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cangen Sir Meirionydd o Undeb Amaethwyr Cymru a gynhelir ar ddiwedd y mis.

Cynhelir y cyfarfod ar nos Wener Ionawr 30 am 7.30yh yng Nghlwb Rygbi Dolgellau a bydd siaradwyr y noson yn cynnwys Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy Ll?r Huws Gruffydd AC, Plaid Cymru, Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Llywodraeth Cymru Andrew Slade, a Rheolwr fferm Hafod y Llan, Nant Gwynant a chyn Gyfarwyddwr Polisi UAC, Arwyn Owen.

Bydd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Huw Jones hefyd yn cyflwyno adroddiad byr o weithgareddau'r gangen yn ystod 2014 ar ddechrau'r cyfarfod.

"Unwaith eto, rydym yn apelio am gynrychiolaeth gref o aelodau o bob rhan o'r sir. Bydd y cyfarfod yn gyfle delfrydol i ystyried dyfodol y diwydiant yn y tymor byr a chanolig.”

Am fanylion pellach am y digwyddiad, mae modd ffonio 01341 422298 neu e-bostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Neges Blwyddyn Newydd

Wrth i UAC nesáu at ei 60fed pen-blwydd, edrychwn yn ôl ar flwyddyn a welodd ostyngiad mewn prisiau wrth gât y fferm ac mewn incwm o’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (CAP) yn cael effaith difrifol ar incwm ffermydd, ond o leiaf mae’r tywydd ffafriol yn golygu y byddwn yn mynd i mewn i 2015 gyda  mwy o borthiant nag a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Bu 2014 yn flwyddyn pan wnaed cyhoeddiadau arwyddocaol - yng nghyswllt strwythur yr Undeb, gyda sefydlu Gwasanaethau Yswiriant Cyfyngedig a newidiadau eraill fel ei gilydd, ac i’r diwydiant amaeth yng Nghymru gyda nifer o gyhoeddiadau allweddol, nid y lleiaf ohonynt yn benodiad Rebecca Evans fel Dirprwy Weinidog amaethyddiaeth a bwyd ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth penodiad y Dirprwy Weinidog nodi trobwynt cadarnhaol yn nhermau cydnabod yr angen ar i’r llywodraeth a UAC gydweithio er lles y diwydiant tra’n derbyn hefyd y bydd peth gwahaniaethau barn yn bodoli’n barhaol. Beth bynnag fo’r gwahaniaethau hynny, neu’r heriau a wynebwn o ganlyniad i effaith ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, credaf ein bod ni’n mynd i mewn i 2015 mewn sefyllfa lawer cryfach, y naill fel y llall, ar gyfrif y parch rhwng y llywodraeth tuag at y diwydiant.

Bydd y cydsyniad barn a’r cydweithio yn holl bwysig dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni gychwyn ar gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr o ganlyniad i gyflwyno rheolau parthed y Polisi Amaethyddol Cyffredinol (CAP) newydd a’r ansicrwydd a wnaeth ddilyn y diddymiad diweddar o’r llinell weundirol 400 metr yn dilyn adolygiad barnwrol llwyddiannus.

Mae’r CAP newydd yn cynrychioli cynnydd anferth yn y baich gweinyddol i ffermwyr ac adrannau llywodraethol fel ei gilydd, er gwaethaf ymrwymiad y Comisiwn Ewropeaidd i reolau symlach, ac fe wna’r rhain arwain at ôl-effeithiau i lawer o ffermwyr.

Mae UAC eisoes wedi amlygu pryderon sylweddol i’r Comisiynydd, y cyn-Weinidog Dros yr Amgylchedd, Phil Hogan, a chawn, yn ddiamau, y cyfle i godi’r pryderon wyneb yn wyneb pan wnawn groesawu’r Comisiynydd i Sioe Frenhinol Cymru yn 2015.

Yn y cyfamser mae’n hanfodol y bydd ffermwyr yn ymgyfarwyddo â’r rheolau newydd er mwyn isafu’r risg o golledion ariannol: mae 2015 yn flwyddyn gyfeirebol ar gyfer sefydlu hawliadau’r Cynllun Taliadau Sylfaenol, a bydd unrhyw gamgymeriadau – er enghraifft, lle gallai hawliwr fethu dangos rheolaeth ddigonol dros dir a fabwysiadwyd neu lle mae pori i’w rentu allan – arwain at golledion blynyddol parhaol.

Dylai unrhyw un sydd angen arweiniad ar y fath faterion gysylltu â’u swyddfa UAC leol lle cânt groeso ac, os yn ffodus, ganfod ychydig o fins peis dros ben!

Yn y cyfamser edrychwn ymlaen at flwyddyn pan fydd UAC yn dathlu trigain mlynedd o amddiffyn diddordebau aelodau, gan barhau i gyflenwi gwasanaethau gwerthfawr un-at-un ledled ei Swyddfeydd Sirol a lwyddodd i  sicrhau mwy na hanner biliwn o bunnau i aelodau dros y degawd diwethaf yn unig.

Dymunwn i chwi oll 2015 hapus a llewyrchus.

UAC yn cynnal Cymanfa Ganu Diolchgarwch

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal Cymanfa Ganu Diolchgarwch ‘Yr Amaethwyr’ ar nos Sul Hydref 26 yng nghapel Seion, Aberystwyth fel ymgais i godi arian at hosbisau plant T? Hafan a T? Gobaith, sef elusennau dewisedig y Llywydd.

Bydd y noson yn cael ei harwain gan Iwan Parry o Ddolgellau ac yn dechrau am 6.00yh.

“Rydym yn ffodus iawn y bydd cyn enillydd y Rhuban Glas Aled Wyn Davies o Lanbrynmair yn ymuno yn y gymanfa ynghyd a band arian Aberystwyth ac amryw o gorau lleol,” dywedodd Llywydd UAC Emyr Jones.

“Gofynnwch i aelodau a ffrindiau o’ch ardal i ymuno yn niolchgarwch yr Undeb wythnos nesaf.  Mae’r capel yn gallu eistedd hyd at 1,000 o bobl a gobeithio y cawn gefnogaeth deilwng o bob sir.

“Os ydych yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad, ond yn methu dod i’r Gymanfa, mae modd prynu detholiad o’r diolchgarwch am £5.  Bydd yr arian yn cael ei roi tuag cyfanswm yr arian a godir,” ychwanegodd Mr Jones.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu os am archebu detholiad, cysylltwch â swyddfa sirol UAC, cangen Ceredigion ar 01545 571222.